Complaint
Maeâr ECU wedi derbyn nifer sylweddol o gwynion am yr erthygl uchod ar wefan BBC News. Maeâr rhai syân cwyno wedi mynegi ystod eang o bryderon ynghylch cywirdeb a didueddrwydd yr erthygl aâi gallu i achosi niwed a thramgwydd. Mae pob cwyn wedi cael ei darllen aâi hystyried.
Maeâr ECU fel arfer yn cyhoeddi ymateb unigol i bob cwyn maeân ei dderbyn, ond mae polisi cyhoeddedig y BBC ar gyfer delio â chwynion yn rhoi cyfle iâr BBC ymateb i nifer o gwynion am yr un mater drwy lunio crynodeb oâr prif bwyntiau a godwyd, eu hystyried gydaâi gilydd a chynhyrchu un ymateb. Ar yr achlysur hwn, rydym wedi penderfynu cyhoeddi un ymateb, ar ffurf canfyddiad gan Bennaeth yr ECU, syân rhoi sylw iâr holl bwyntiau pwysig y cwynion (ond nid o reidrwydd yn y termau y mae achwynwyr unigol wediâu nodi) ac syân eu hasesu yn erbyn safonau golygyddol y BBC, fel y nodir yn ei Chanllawiau Golygyddol aâr Canllawiau cysylltiedig. Mae hyn yn golygu efallai na fydd rhai pwyntiau a godir gan achwynwyr unigol yn cael sylw uniongyrchol ond credwn fod y dull gweithreduân gymesur ac mai dymaâr ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau gwerth am arian i bawb syân talu ffiâr drwydded.Â
Yn y canfyddiad hwn drwyddo draw, maeâr termau âlesbiaidâ a âmerched trawsryweddolâ wedi cael eu defnyddio i wahaniaethu rhwng y grwpiau y tynnir sylw atynt yn yr erthygl y cwynir amdani, ac nid i awgrymu eu bod yn gategorïau syân annibynnol ar ei gilydd.
Outcome
Materion yn ymwneud ââr gwyn
Didueddrwydd
Cododd y rheini a oedd yn cwyno ddau fater penodol mewn perthynas â didueddrwydd:
- nad ywâr cysyniad o âddidueddrwydd dyladwyâ (a ddiffinnir yn y Canllawiau Golygyddol fel âdigonol a phriodol iâr allbwn, gan ystyried pwnc a natur y cynnwys, disgwyliad tebygol y gynulleidfa ac unrhyw arwydd a allai ddylanwadu ar y disgwyliad hwnnwâ) yn cyfiawnhau cynnwys cyfraniadau gan bobl neu sefydliadau y mae achwynwyr yn ystyried eu bod yn drawsffobig;
- nad oedd yr erthygl yn cynnwys yr ystod o safbwyntiau angenrheidiol ar gyfer sylw diduedd i bwnc dadleuol, y maeâr Canllawiau Golygyddol yn nodi:
Gall âpwnc dadleuolâ fod yn fater syân ddadleuol o ran polisi cyhoeddus neu mewn cyd-destun gwleidyddol neu ddiwydiannol. Gall hefyd fod yn ddadleuol yng nghyd-destun crefydd, gwyddoniaeth, cyllid, diwylliant, moeseg neu unrhyw fater arall.
Wrth benderfynu a yw pynciauân ddadleuol, dylem ystyried:
- lefel yr ymryson a dadlau cyhoeddus a gwleidyddol
- pa mor amserol ywâr pwnc
- sensitifrwydd o ran credoau a diwylliant y cynulleidfaoedd perthnasol
- a ywâr pwnc yn destun dadlau mawr neuân fater pwysig mewn gwlad, rhanbarth neu gymuned benodol neu mewn maes ar wahân syân debygol o gynnwys rhan sylweddol oâr gynulleidfa o leiaf
- barn resymol ynghylch a ywâr pwnc yn un pwysig
- y gwahaniaeth rhwng materion seiliedig ar ffaith aâr rheini syân fater o farn.
Wrth ddelio â âphynciau dadleuolâ, rhaid i ni sicrhau bod pwys a sylw dyladwy yn cael eu rhoi i amrywiaeth fawr o farnau a phersbectifau arwyddocaol, yn enwedig os ywâr dadlau amdanynt yn frwd.Â
Mewn perthynas â 1, roedd rhai achwynwyr yn cynnig cyfatebiaeth rhwng safbwyntiau hiliol neu homoffobig a chynnwys safbwyntiau yr oeddent yn eu hystyried yn drawsffobig, gan nodi nad yw didueddrwydd dyladwy yn gofyn am gynrychiolaeth oâr safbwyntiau hiliol neu homoffobig pan fo hil neu gyfeiriadedd rhywiol yn destun sylw newyddion. Roedd Pennaeth yr ECU oâr farn nad oedd y cyfatebiaethau hyn yn fuddiol oherwydd i ba raddau y mae dadlau o hyd ynghylch yr hyn syân farn drawsffobig, y ddadl ei hun syân adlewyrchu i ba raddau y dadleuir bod hawliau gan neu ar ran pobl draws yn gwrthdaro â hawliau gan neu ar ran grwpiau eraill sydd wedi dioddef rhagfarn, anfantais neu erledigaeth. Felly, nid oedd yn derbyn na ellid cyfiawnhau cynnwys y cyfraniadau a wrthwynebir o ran didueddrwydd dyladwy â er bod i ba raddau yr oedd didueddrwydd mewn gwirionedd yn fater yn y cyswllt hwn yn gwestiwn a gaiff ei ystyried isod.
Mewn perthynas â 2, maeân bwysig bod yn glir am y pwnc y maeâr erthygl yn rhoi sylw iddo, sef y cyntaf yn y cyfryngau prif ffrwd y DU maeân debyg, i edrych ar brofiad rhai lesbiaid o dan bwysau i gael rhyw gyda menywod trawsryweddol. Nid yw a oes pryderon yn y maes hwn ai peidio yn bwnc dadleuol, ond mae'n fater o ffaith. Roedd y dystiolaeth a gynhwyswyd yn yr erthygl (hyd yn oed heb gyfeirio at dystiolaeth arall a gasglwyd gan yr awdur ond na gafodd ei gynnwys) yn dystiolaeth a oedd yn cadarnhau bod pryderon oâr fath. Maeân ddigon posibl y byddai adrodd ar y ffaith hon yn destun dadlau, er enghraifft ynghylch nifer neu arwyddocâd y ffenomen yr adroddir arni, ond nid yw hynny ynddo ei hun yn ei gwneud yn âbwnc dadleuolâ syân golygu bod angen cynnwys âystod eang o safbwyntiau a safbwyntiau a phersbectifau arwyddocaolâ y dylid eu hadlewyrchu.  Â
Mae pwnc yr erthygl, serch hynny, yn ymwneud â phwnc y gellid ei ystyried yn bwnc dadleuol oherwydd ei fod yn fater o âddadl neu bwysigrwydd mewn cymuned benodolâ, sef a yw dewis rhai lesbiaid i beidio â chael menywod trawsryweddol fel partneriaid rhywiol yn ddilys neu, fel mae rhai yn dadlau, yn arwydd o drawsffobia. Cysylltodd yr awdur â nifer o bobl a sefydliadau a allai fod wedi rhoi llais iâr farn honno ond, ar wahân i Stonewall (a wnaeth ddarparu datganiad a oedd yn cael ei adlewyrchu yn yr erthygl), nid oeddent yn dymuno cyfrannu. Er hynny, roedd eu safbwyntiauân cael eu cynrychioli ar sail yr hyn yr oeddent eisoes wediâi ddweud ar y cofnod cyhoeddus, naill ai yng nghorff yr erthygl (yn achos Stonewall a Veronica Ivy) neu yn yr adran syân dwyn y teitl âPwy arall y cysylltwyd â nhw?â. Roedd Pennaeth yr ECU oâr farn bod hyn yn ddigonol i fodloni gofynion didueddrwydd dyladwy iâr graddau yr oeddent yn berthnasol iâr erthygl.
Cywirdeb
Maeâr Canllawiau Golygyddol yn dweud:
Maeâr BBC wedi ymrwymo i sicrhau cywirdeb dyladwy yn ei holl allbwn....Ystyr y term âdyladwyâ yw bod rhaid iâr cywirdeb fod yn ddigonol ac yn briodol iâr allbwn, gan ystyried pwnc a natur y cynnwys, disgwyliad tebygol y gynulleidfa ac unrhyw hysbysrwydd a all ddylanwadu ar y disgwyliad hwnnw.
Prif fater y gŵyn ynghylch cywirdeb oedd bod y sail dystiolaethol dros awgrymu pwysau gan fenywod trawsryweddol yn peri problem sylweddol i lesbiaid yn annigonol. Yn y cyswllt hwn, nododd Pennaeth yr ECU fod y pennawd âMae rhai menywod trawsryweddol yn rhoi pwysau arnom i gael rhywâ (nad oedd wediâi ysgrifennu gan awdur yr erthygl) yn rhoiâr argraff y byddaiâr erthygl yn canolbwyntio ar bwysau a roddir gan fenywod trawsryweddol, tra bod ei ffocws o leiaf gymaint ar bwysau mewnol a brofir gan rai lesbiaid o ganlyniad i hinsawdd barn (fel y tybiwyd hynny ganddynt) yn y gymuned LGBT, yn hytrach na phwysau uniongyrchol gan fenywod trawsryweddol. Dim ond un oâr cyfranwyr a enwyd a siaradodd am eu profiadau[1] eu hunain oedd yn ymlygu merch drawsryweddol fel ffynhonnell bosibl o bwysau, ac roedd hynny mewn cyd-destun lleâr oedd eisoes wedi mewnoliâr gred y dylai lesbiaid fod yn agored i ganlyn merched trawsryweddol (yn yr un modd, fel wnaeth un di-enw ymateb i holiadur Get the L Out a oedd yn honni eu bod wedi cael eu treisio gan fenyw drawsryweddol a ddisgrifiodd ei hun fel rhywun a oedd eisoes wedi ei âchyflyru gan y ddamcaniaeth cwiarâ). Ym marn Pennaeth yr ECU, rhoddodd y pennawd argraff braidd yn gamarweiniol oâr erthygl ei hun, ac roedd yn ymddangos o nifer oâr cwynion bod hyn wedi cyfrannu at ddealltwriaeth oâr erthygl fel rhywbeth a oedd yn canolbwyntio mwy ar ymddygiad merched trawsryweddol nag a oedd yn wir mewn gwirionedd. Iâr graddau hynny, roedd yn is na safonau cywirdeb dyladwyâr BBC.Â
Roedd cwynion hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod yr erthygl wedi cynnwys data a gynhyrchwyd gan Get The L Out yn 2019 (ar sail yr arolwg a gafodd ei grybwyll uchod). Dywed Canllawiau Golygyddol y BBC ar âPolau piniwn, arolygon, holiaduron, pleidleisiau a âphôl gwelltynâ:
Pan fydd arolwg wedi cael ei gomisiynu gan gorff allanol sydd â diddordeb yn y mater, dylid dweud wrth y gynulleidfa, a dylem fod yn wirioneddol amheugar o ran sut rydym yn ei drin... Os nad yw [arolygon] o werth ystadegol ac yn ymddangos eu bod wedi cael eu hyrwyddo i roi sylw i achos neu gyhoeddiad penodol yn unig, dylem fod yn wirioneddol amheugar ac ystyried peidio ââu defnyddio o gwbl, yn enwedig pan fyddant yn ymwneud â materion difrifol neu ddadleuol.
Roedd canfyddiadauâr holiadur Get the L Out, fel y nodwyd yn yr erthygl (er enghraifft, bod 56% oâr rhai ymatebodd âwedi dweud eu bod yn cael eu bygwth neu eu gorfodi i dderbyn menyw drawsryweddol fel partner rhywiolâ) yn tueddu i roiâr argraff bod pwysau i gael rhyw gyda menywod trawsryweddol, boed hynny gan fenywod trawsryweddol unigol neu o gonsensws ymgyrchwyr, yn brofiad eang, neu hyd yn oed yn brofiad iâr mwyafrif, ymysg lesbiaid. Ym marn Pennaeth yr ECU, fodd bynnag, nid oedd yn darparu sail ddigonol ar gyfer yr argraff honno. Anfonwyd yr holiadur at nifer fach o grwpiau âmenywod yn unigâ a âlesbiaidd yn unigâ, a dim ond tua un rhan o dair oâr 80 wnaeth ymateb oedd yn dod oâr DU. Roedd yr erthygl yn cynnwys rhai rhybuddion, er enghraifft drwy gydnabod âefallai nad ywâr sampl yn gynrychioladol oâr gymuned lesbiaidd ehangachâ a thrwy ddisgrifio Get the L Out fel sefydliad y mae ei aelodau âyn credu bod hawliau lesbiaid yn cael eu hanwybyddu gan lawer oâr mudiad LGBT presennolâ ac a oedd wedi cael eu cyhuddo o âgulni, anwybodaeth a chasinebâ. Fodd bynnag, nid oedd yn ymddangos i ni fod y rhain yn mynd yn ddigon pell iâw gwneud yn glir i ddarllenwyr nad oedd yr arolwg yn ddilys yn ystadegol nac i ba raddau y mae gan Get the L Out agenda (fel sefydliad syân credu bod âymgyrchu trawsryweddol yn dileu lesbiaid, ac yn tawelu ac yn dirmygu lesbiaid syân meiddio siarad allanâ) y mae canlyniadauâr arolwg i bob golwg yn eu hategu. Iâr graddau bod yr erthygl wedi methu ag arfer y lefel briodol o amheuaeth wrth ymdrin ââr arolwg, roedd yn is na safonau cywirdeb dyladwyâr BBC.
Gydaâr ddau bwynt yma mewn golwg, aeth Pennaeth yr ECU ymlaen i ystyried y ddadl a gyflwynwyd gan nifer oâr achwynwyr fod yr erthygl yn cyfleu argraff o faint a difrifoldeb y mater yr oedd yn ei archwilio, a oedd yn mynd y tu hwnt iâr hyn y gellid ei gyfiawnhau ar sail ei dystiolaeth, a oedd yn bennaf yn anecdotaidd, ac iâr graddau yr oedd yn deillio o sefydliadau ac unigolion ag agenda gwrth-drawsryweddol, y dylid ei ystyried ag amheuaeth. Cytunodd nad oedd sail tystiolaeth yr erthygl yn ddigon i gefnogiâr argraff bod âbod dan bwysau i gael rhywâ yn brofiad eang i lesbiaid yng nghyd-destun eu perthynas â menywod trawsryweddol, a nododd y datganiadau canlynol yn yr erthygl, a nodwyd gan achwynwyr, fel rhai a roddodd yr argraff bod hynny yn wir:
Cysylltodd nifer o bobl â mi i ddweud bod âproblem enfawrâ i lesbiaid, a oedd dan bwysau i âdderbyn y syniad y gall pidyn fod yn organ ryw gan fenywâ. (Awdur)
Rydyn niân gwybod bod lleiafrif, ond lleiafrif sylweddol o fenywod trawsryweddol o hyd, yn pwyso ar lesbiaid i fynd allan gyda nhw a chael rhyw gyda nhw... (Bev Jackson, Cynghrair Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol)
Er ei fod yn derbyn bod y ddau ddatganiad yn gallu cyfleuâr argraff y cwynwyd amdani, roedd yna ffactorau yr oedd yn ymddangos iddo ef eu bod yn cymhwyso'r graddau y byddent wedi gwneud hynny. I ddechrau, roedd y farn bod âproblem enfawrâ wediâi phriodoliân glir i bobl a oedd wedi cysylltu ââr awdur ar ôl darllen erthygl flaenorol ganddi[2], ac felly nid oedd wediâi chyflwyno fel casgliad gan yr awdur. Yn ail, aeth yr awdur yn ei blaen i holiâr cyfrannwr ar y sail ei fod yn dweud âlleiafrif sylweddolâ, a ddenodd gyfaddefiad gan y cyfrannwr, sef âNid oes gennym ffigurauâ. Gan gymryd y amodau hyn ynghyd â chydnabyddiaeth yr awdur tuag at ddechrauâr erthygl, yn absenoldeb ymchwil, âbuân anodd penderfynu ar wir faint y broblemâ, nid oedd Pennaeth yr ECU yn credu y byddaiâr datganiadau a nodwyd uchod wedi ychwaneguân sylweddol at yr argraff gamarweiniol syân deillio o bennawd yr erthygl aâi ffordd o ymdrin ag arolwg Get The L Out, ac ni chanfu unrhyw dramgwydd pellach o ran cywirdeb dyladwy yn y cyswllt hwn.
Roedd rhai achwynwyr yn dadlau ei bod yn anghywir ac yn gamarweiniol iâr awdur ysgrifennu âYn ogystal â Veronica Ivy, cysylltais â nifer o fenywod trawsryweddol proffil uchel eraill sydd naill ai wedi ysgrifennu neu siarad am ryw a pherthnasoedd. Nid oedd yr un ohonynt eisiau siarad â miâ, ar y sail bod Chelsea Poe wedi cytuno i gael ei chyfweld (er, fel maeân digwydd, ni ddefnyddiwyd unrhyw ddyfyniadau oâr cyfweliad yn yr erthygl[3]).  Maeân amlwg mai mater o farn yw a ywâr disgrifiad âproffil uchelâ yn addas i menyw drawsryweddol benodol, lle gallai fod elfen oddrychol. Felly, er bod Pennaeth yr ECU yn derbyn y byddai rhai yn ystyried bod Chelsea Poe yn ffitioâr disgrifiad, nid oedd yn credu y byddaiân anghywirdeb difrifol ei disgrifio fel arall. Nid oedd ychwaith yn credu bod y cwestiwn wedi effeithioân sylweddol ar y pwynt a oedd yn cael ei wneud gan yr awdur, ar sail ei fod yn ymwneud â chysylltu â deg menyw drawsryweddol yr oedd hiân eu hystyried yn uchel eu proffil, ac a fyddai wedi cynrychioliâr farn y dylai lesbiaid fod yn agored i ganlyn â menywod traws gyda phidyn, ac nid oedd yr un ohonynt yn cytuno i gael eu cyfweld. Nododd fod safbwyntiau rhai ohonynt, oâr hyn yr oeddent wediâi roi ar y cofnod cyhoeddus, yn cael eu hadlewyrchu yn yr adran oâr erthygl a gyflwynwyd gan y darn a ddyfynnwyd uchod (âPwy arall y cysylltwyd â nhw?â).
Niwed a Thramgwydd
Prif fater y gŵyn i lawer oedd bod yr erthygl yn cyflwyno stereoteip niweidiol a negyddol mewn perthynas ag ymddygiad menywod trawsryweddol, ac wrth wneud hynny roedd yn drawsffobig.Â
Mae canllawiauâr BBC ar Niwed a Thramgwydd a Phortreadu yn dweud y gall cynnwys syân cael ei ddarlledu neu ei gyhoeddi gan y BBC adlewyrchu, ond na ddylai fytholi, y rhagfarn syân bodoli yn ein cymdeithas; a bod yn rhaid i allbwn syân cynnwys safbwyntiau a allai ysgogi casineb neu achosi tramgwydd gael cyfiawnhad golygyddol clir a chynnwys her briodol a/neu gyd-destun priodol.Â
Wrth farnu i ba raddau yr oedd yr erthygl yn cydymffurfio ââr safonau golygyddol hyn, fe wnaeth Pennaeth yr ECU ystyried yn gyntaf i ba raddau yr oedd yn ymwneud ag ymddygiad a fyddaiân debygol o gyfleu argraff niweidiol a negyddol oâr rhai y dywedwyd eu bod yn ymgysylltu â hynny. Nododd, er y gellid ystyried bod y cysyniad o bwysau i gael rhyw, syân cael ei honni gan y pennawd, yn awgrymu amhriodoldeb ar ran y rhai yr honnir eu bod yn rhoi pwysau, mae gwahaniaeth, serch hynny, rhwng gorfodaeth (a fyddai fel arfer yn cael ei ystyried yn resynus) a pherswâd neu eiriolaeth, ac y gallai fod yna achlysuron lle byddai un carfan wedi profi tebyg i bwysau lle byddaiâr carfan arall wedi ei ystyried o ran ewyllys da fel perswâd cyfreithlon. Roedd yr erthygl yn cynnwys un enghraifft o ymddygiad a fyddai ond yn cael ei ystyried yn un cymhellol (petaiân cael ei adrodd yn gywir), yn achos yr ymatebydd dienw iâr holiadur Get The L Out a oedd yn honni ei fod wedi cael ei threisio gan fenyw drawsryweddol, ond nid oedd awgrym bod hyn yn adlewyrchu ymddygiad menywod trawsryweddol yn gyffredinol.  Yn yr unig achos arall a oedd yn nodi menyw draws fel ffynhonnell bosibl o bwysau, nid oedd y cyfrannwr (âChloeâ) yn myfyrio o gwbl ar ymddygiad y fenyw drawsryweddol ar wahân i ganiatáuâr awgrym ei bod wedi parhau i roi sylw, er bod y cyfrannwr âwedi egluro dro ar ôl tro nad oedd ganddi ddiddordebâ, a disgrifiodd y pwysau a deimlodd yn bennaf mewn perthynas ââi hymateb ei hun i âiaith y cyfnodâ aâr hyn yr oedd hiân ei ystyried yn agwedd gyffredin yn y gymuned LBGT.Â
Er bod Pennaeth yr ECU yn cydnabod y gallai rhai ystyried agwedd oâr fath yn resynus oherwydd y profiad o bwysau y maeân ymddangos ei fod wedi cyfrannu ato yn achos rhai cyfranwyr iâr erthygl, maeân amlwg nad yw hyn yn farn y rhai syân dadlau bod dewis rhai lesbiaid i beidio â chael menywod trawsrywiol fel partneriaid rhywiol yn arwydd o drawsffobia â safbwynt syân cael ei ddangos gan y dyfyniadau yn yr adran âPwy arall y cysylltwyd â nhw?â yn yr erthygl. Felly, daeth iâr casgliad (ac eithrioâr unig honiad o drais rhywiol) nad oedd yr erthygl yn priodoli menywod trawsryweddol, yn gyffredinol nac yn unigol, i ymddygiad y gellir ond ei ystyried yn resynus, aâi fod, yng ngolwg llawer o fenywod trawsryweddol ac eiriolwyr, maiâr hyn a ffafrir gan rhai lesbiaid, yn hytrach nag ymddygiad y rhai syân ceisio perthynas â nhw, syân agored i feirniadaeth. Maeân dilyn o hyn nad oedd Pennaeth yr ECU yn credu bod yr erthygl yn cyflwyno stereoteip niweidiol a negyddol mewn perthynas ag ymddygiad menywod trawsryweddol, a oedd mewn perygl o ysgogi casineb neu a oedd yn rhoi sail resymol dros dramgwyddo. Mae hefyd yn dilyn na fyddaiâr elfennau o anghywirdeb a nodwyd yn gynharach yn y canfyddiad hwn wedi cyfrannu at greu stereoteip niweidiol neu negyddol, er y gallent fod wedi arwain at argraff ormodol o nifer yr achosion oâr pryderon y rhoddir sylw iddynt yn yr erthygl.
Mynegodd rhai achwynwyr bryder ychwanegol bod darparu dolen iâr adroddiad gan Get the L Out yn torri safonauâr BBC, gan fod yr adroddiad yn cynnwys iaith dramgwyddus a thrawsffobig. Mae Canllawiau perthnasol y BBC yn dweud, pan fydd cynnwys y BBC yn cynnig dolenni i wefannau allanol, y dylid ystyried pryderon ynghylch âtorriâr gyfraith o bosiblâ, ac mewn rhai achosion y gallai fod yn briodol ychwanegu ymwadiad penodol neu roi gwybod iâr defnyddiwr fel arall am ddeunydd dadleuol neu heriol.
Nid ywâr canllawiauân dweud na ddylid byth darparu dolenni at ddeunydd a allai fod yn dramgwyddus, nac y dylid cynnig rhybudd penodol bob amser. Roedd y testun ar y dudalen yn egluro bod rhai yn ystyried bod y sefydliad yn drawsffobig, a disgrifiwyd yr adroddiad ei hun mewn termau a oedd yn egluroâr ddadl a oedd yn gysylltiedig ag ef:
Er ei fod yn cael eu croesawu gan rai yn y gymuned LGBT, disgrifiwyd adroddiad Angela fel rhywbeth trawsffobig gan eraill.
â[Dywedodd pobl] ein bod yn waeth na threiswyr am ein bod [yn honedig] yn ceisio fframio pob menyw drawsryweddol fel treisiwr,â meddai Angela.        Â
O ystyried y cyd-destun hwn, maeân annhebygol y byddai unrhyw un a ddilynodd y ddolen (i dudalen syân cynnal yr adroddiad, yn hytrach naâr adroddiad ei hun) wedi bod yn amharod i ddod ar draws iaith oâr math y cwynir amdani. Yn unol â hynny, nid oedd Pennaeth yr ECU yn credu bod cynnwys y ddolen neu hepgor ymwadiad penodol yn golygu torri safonau golygyddol y BBC.
Tynnodd rhai achwynwyr sylw at yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn iaith gam-ryweddu neu fio-hanfodol syân peri tramgwydd i bobl drawsryweddol. Oâr enghreifftiau a roddwyd, roedd yn ymddangos i Bennaeth yr ECU bod un yn seiliedig ar gamsyniad. Dyfynnwyd bod y cyfrannwr âJennieâ yn dweud âRydw i wedi cael rhywun yn dweud y byddaiân well ganddyn nhw fy lladd i na Hitler...Roedden nhwân dweud y bydden nhwân fy nghrogi i gyda gwregys pe baen nhw mewn ystafell gyda mi a Hitler. Roedd hynnyân hynod o dreisgar, dim ond oherwydd na fyddwn iân cael rhyw gyda menywod trawsryweddolâ, ac roedd rhai yn ystyried ei defnydd o ânhwâ fel rhywbeth oedd yn bwrw amheuaeth yn fwriadol ynghylch rhyw menyw drawsryweddol. Fodd bynnag, ni ddywedodd âJennieâ unrhyw beth i awgrymu mai menyw drawsryweddol oedd yn gwneud y sylwadau dan sylw, ac ni welodd Pennaeth yr ECU unrhyw sail dros dybio eu bod wedi gwneud hynny. O ganlyniad, nid oedd yn derbyn bod hyn yn enghraifft o gam-ryweddu. Roedd enghreifftiau eraill yn cynnwys cyfranwyr a oedd yn cyfeirio at fenywod trawsryweddol fel âgwrywod yn fiolegolâ neu â nodweddion âgwrywaiddâ, ond nid oedd hyn, mewn unrhyw achos, yn gwadu bod menywod trawsryweddol yn fenywod mewn gwirionedd ac yn llygaid y gyfraith. Er bod Pennaeth yr ECU yn gwerthfawrogi bod modd i gyfeiriadau oâr fath beri tramgwydd, credai fod cyfiawnhad dros eu cynnwys oherwydd y bwriad golygyddol i roi cipolwg ar brofiad a theimladauâr cyfranwyr dan sylw.  Ni ddaeth o hyd i unrhyw enghraifft o iaith gam-ryweddu na bio-hanfodol yng ngeiriauâr awdur ei hun.
Roedd nifer oâr achwynwyr yn dadlau ei bod yn amhriodol iâr erthygl (yn ei ffurf wreiddiol) gynnwys cyfweliad gydaâr seren pornograffig lesbiaidd aâr cyfarwyddwr Lily Cade, ar sail ei hymddygiad rhywiol blaenorol aâr safbwyntiau trawsffobig a oedd ganddi ar-lein ar ôl i erthygl y BBC gael ei chyhoeddi. Maeâr rhai syân gyfrifol am erthygl y BBC wedi dweud nad oeddent yn ymwybodol o safbwyntiau trawsffobig Ms Cade cyn iâr erthygl gael ei chyhoeddi ac maent yn honni nad oedd sail resymol ar gyfer rhagweld y safbwyntiau a fynegodd wedi hynny. Maent wedi cadarnhau nad oedd unrhyw arwydd yn eu hymwneud â hi a fyddai wedi tynnu eu sylw at y ffaith fod ganddi farn benodol am fenywod trawsryweddol, neu y gallai fod ganddi unrhyw broblemau iechyd meddwl. Roeddent yn cydnabod, fodd bynnag, ei bod wedi cyfaddef i ymddygiad sydd bellach yn cael ei gydnabod fel cam-drin rhywiol mewn sgwrs Zoom ym mis Medi 2020, a oedd wedi colli sylw erbyn yr adeg yr oedd yr erthygl yn barod iâw chyhoeddi dros flwyddyn yn ddiweddarach. Yng nghyd-destun yr erthygl, byddaiâr wybodaeth hon wedi helpuâr darllenwyr i farnu ei sylwadau yng ngoleuni ei gweithredoedd ei hun, ac roedd yn anffodus na chafodd ei chynnwys.  Ar ôl i broblemau ymddygiad rhywiol Ms Cade a sylwadau ar-lein dilynol ddod iâr amlwg, fodd bynnag, tynnwyd ei chyfraniad oâr erthygl, a chafodd y diweddariad canlynol ei ychwanegu ato ar 4 Tachwedd 2021:
Rydym wedi diweddaruâr erthygl hon, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, er mwyn tynnu cyfraniad gan un unigolyn yng ngoleuni sylwadau y mae wediâu cyhoeddi ar bostiadau blog yn ddiweddar, yr ydym wedi gallu eu dilysu.
Rydym yn cydnabod y dylid bod wedi cynnwys cyfaddefiad o ymddygiad amhriodol gan yr un cyfrannwr yn yr erthygl wreiddiol.
Roedd Pennaeth yr ECU oâr farn bod hwn yn ymateb priodol yn yr amgylchiadau, ac yn ddigon i ddatrys materion y gŵyn yn y cyswllt hwn. Roedd nifer oâr achwynwyr oâr farn nad oedd y diweddariad yn rhoi digon o fanylion am y rheswm pam yr oedd cyfraniad Ms Cade wedi cael ei ddileu, ond maeân rhaid iâr BBC ystyried sut i ddisgrifio deunydd tramgwyddus heb ailadrodd a pharhau ag unrhyw drosedd y gallai ei achosi, ac roedd Pennaeth yr ECU yn credu bod cyfiawnhad dros beidio â rhoi manylion yn yr achos hwn.Â
Hefyd yn y cyswllt hwn, cyfeiriodd rhai achwynwyr at honiadau y dylaiâr BBC fod wedi bod yn ymwybodol oâr materion mewn cysylltiad â Ms Cade oherwydd bod Chelsea Poe wedi cyfeirio atynt yn ei chyfweliad ââr awdur. Gwrandawodd Pennaeth yr ECU ar recordiad oâr cyfweliad cyfan a fe wnaeth ganfod fod Ms Poe wedi cyfeirio at Ms Cade yng nghyd-destun ei phrofiad saith mlynedd ynghynt wrth ystyried cynnig gwaith gan gwmni cynhyrchu yr oedd Ms Cade yn cyfarwyddo ffilmiau ar ei gyfer, ond nad oedd wedi gwneud hynny mewn termau a oedd yn awgrymu bod Ms Cade yn drawsffobig ac na chyfeiriwyd at ei chyfaddefiad o gam-drin rhywiol. Yn unol â hynny, ni wnaeth Pennaeth yr ECU ganfod unrhyw sail iâr honiadau bod Ms Poe wedi tynnu sylwâr BBC at y materion perthnasol mewn perthynas â Ms Cade.Â
Crynodeb oâr canfyddiadau
Bu i Bennaeth yr Uned Cwynion Gweithredol (ECU) ganfod bod yr erthygl, er ei fod yn ddarn cyfreithiol o newyddiaduriaeth ar y cyfryw, wedi disgyn o dan safonau cywirdeb y BBC am ddau reswm: roedd y pennawd wedi rhoiâr argraff camarweiniol bod ffocws yr erthygl ar y pwysau a roddwyd ar ferched trawsrywiol, a bod ymdriniaeth yr ymchwil a wnaethpwyd gan Get the L Out ddim wedi amlinellu yn glir ei fod yn ddiffygiol mewn dilysrwydd ystadegol. Hefyd canfyddodd  y torrwyd safonau mewn perthynas ag un cyfraniad iâr erthygl (a gafodd ei dynnu wedyn) a ystyriodd iddo dderbyn y sylw briodol drwy ddiweddariad a ychwanegwyd iâr erthygl. Cafodd y cwynion felly eu cynnal yn rhannol mewn perthynas a chywirdeb aâu datrys mewn perthynas aâr cyfraniad a gafodd ei ddileu.
[1] âChloeâ
[2] âRhyw, celwydd a cydsyniad cyfreithiol: All ystryw droi rhyw yn drais?â, https://www.bbc.co.uk/news/uk-england-49127545
[3]Gofynnodd rhai achwynwyr am esboniad ynghylch pam na ddefnyddiwyd y cyfweliad. Ar ôl gwrando ar y recordiad, rydym yn cytuno ââr awdur nad oedd yn cynnwys unrhyw beth a oedd yn taflu cymaint o oleuni ar y materion y rhoddwyd sylw iddynt yn yr erthygl fel ei fod yn gwarantu eu bod yn cael eu cynnwys.
Further action
Gweithredu pellach
Cafodd pennawd a chynnwys yr erthygl ei newid i adlewyrchuâr canfyddiad.