Adroddiad Blynddol y BBC: Y BBC yng nghymru yn 'mynd o nerth i nerth'
Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC ar gyfer 2011/12, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi’r hyn a gyflawnwyd dros gynulleidfaoedd yng Nghymru gan y BBC yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
O ran rhaglenni, roedd uchafbwyntiau'r flwyddyn yn cynnwys The Story of Wales, a gyflwynwyd gan Huw Edwards. Hon oedd yr ail raglen mwyaf poblogaidd o blith yr holl raglenni a ddangoswyd ar BBC One yng Nghymru yn ystod y flwyddyn. Eleni hefyd gwelwyd y rhaglenni cyntaf a gynhyrchwyd yn safle cynhyrchu drama'r BBC ym Mhorth y Rhath ym Mae Caerdydd, gyda Casualty yn ymuno â Sherlock, Merlin ac Upstairs Downstairs. Mae opera sebon hynaf y BBC, Pobol y Cwm, wedi cael blwyddyn dda ers symud y cynhyrchu i Borth y Rhath, gan gynnal cynulleidfaoedd mawr o 51,000 y rhaglen yn dilyn pum mlynedd o dwf cyson.
O ran y newyddion, gwyliodd mwy na hanner yr holl oedolion yng Nghymru (1.4 miliwn) o leiaf un bwletin BBC Wales Today bob wythnos, cynnydd o'r 1.2 miliwn llynedd. Ac ym mlwyddyn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru teithiodd BBC Radio Wales y wlad gan ystyried y materion o bwys. Hefyd, bu BBC Cymru Wales yn gyfrifol am ddarllediadau cynhwysfawr o Eisteddfod Genedlaethol 2011 yn Wrecsam ar Radio Cymru, S4C ac ar-lein, a werthfawrogwyd yn fawr gan gynulleidfaoedd ledled Cymru.
Eleni, daeth y BBC ac S4C i gytundeb ynghylch cyllido a rheoli S4C yn y dyfodol gan y bydd S4C yn cael ei ariannu'n bennaf o ffi'r drwydded o 2013 ymlaen. Mae'r trefniadau yn amddiffyn annibyniaeth olygyddol a rheolaethol S4C, tra'n sicrhau atebolrwydd priodol i Ymddiriedolaeth y BBC am sut bydd y gwasanaeth yn gwario ffi'r drwydded.
Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cymru y BBC:
"Mae'r BBC yng Nghymru wedi mynd o nerth i nerth eleni gyda rhaglenni gwych i gynulleidfaoedd yng Nghymru a ledled y DU, a'r ganolfan newydd ym Mhorth y Rhath yn dod yn bwerdy cynhyrchu. Mae'r cytundeb newydd rhwng y BBC ac S4C hefyd yn newyddion da i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol.
"Wrth edrych ymlaen, fe fyddwn yn parhau i ystyried anghenion a phryderon cynulleidfaoedd Cymru wrth i'r newidiadau yn sgil strategaeth newydd y BBC, Darparu Ansawdd yn Gyntaf, gael eu gweithredu ledled y BBC."
Heddiw hefyd cyhoeddwyd yr arolwg o berfformiad y BBC yng Nghymru a wnaethpwyd gan gorff ymgynghorol annibynnol yr Ymddiriedolaeth, Cyngor Cynulleidfa Cymru. Roedd hwnnw yn croesawu agor canolfan gynhyrchu newydd Porth y Rhath ar amser ac o fewn y gyllideb, ac yn croesawu’r cytundeb newydd gydag S4C.
Hefyd, amlinellodd y Cyngor flaenoriaethau i'w hystyried gan yr Ymddiriedolaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, yn cynnwys cynyddu nifer y straeon newyddion cymharol er mwyn adlewyrchu’r gwahaniaethau polisi a chyfreithiol yng ngwledydd gwahanol y DU; a'r angen i ddiogelu a chryfhau gwasanaethau craidd y BBC sydd wedi'u hanelu'n benodol at Gymru.
Mynegodd y Cyngor Cynulleidfa bryder difrifol am ddiffyg argaeledd BBC Radio Wales a Radio Cymru ar DAB , a phryder am yr effaith ar raglenni penodol i Gymru gan BBC Wales ar BBC Two gyda’r bwriad i gychwyn sianel BBC Two HD. Ond hefyd cydnabu’r gwaith oedd wedi ei wneud er mwyn cynyddu argaeledd BBC Radio Wales ar FM , sydd erbyn eleni yn uwch nag 80 y cant am y tro cyntaf erioed.
Nodiadau i Olygyddion:
Gellir gweld Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC ar gyfer 2011/12 yn: www.bbc.co.uk/annualreport
Gellir gweld Arolwg Cyngor Cynulleidfa Cymru yn:
http://www.bbc.co.uk/bbctrust/who_we_are/audience_councils/wales/annual_review.html?lang=cy
Search the site
Can't find what you need? Search here